13/12/2024
Goleuadau’r Iard ac Agor Gyda’r Hwyr | Courtyard Illuminations and Late-Night Opening
****
Rydym yn edrych ymlaen yn arw at groesawu ymwelwyr i weld y Goleuadau wrth i ni agor gyda’r hwyr, sy’n cychwyn fory, Rhagfyr 13 hyd at Ragfyr 23.
Dyma’r wybodaeth allweddol:
• Byddwn yn cau am 4pm er mwyn gallu paratoi ar gyfer digwyddiadau gyda’r nos, a fydd yn cychwyn am 4.30pm
• Bydd angen tocyn i gael mynediad i’r Iard, a bydd ein tîm yn gwirio’r tocynnau wrth y giatiau
• Gellir cael tocynnau o Dderbynfa’r Ymwelwyr. Ni ellir prynu tocynnau o flaen llaw nac ar-lein
• Bydd mynediad yn rhad ac am ddim i aelodau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol a phris mynediad arferol i rai nad ydynt yn aelodau
• Os ydych yn ymweld â ni yn ystod y dydd, ac eisiau dod yn ôl i mewn i’r Iard gyda’r nos, cadwch eich tocyn yn ddiogel
• Rydym yn rhagweld y bydd hi’n brysur, felly byddwch yn amyneddgar gyda’n tîm a chaniatáu digon o amser i gyrraedd, parcio a chael eich tocyn. Wrth gyrraedd, cadwch lygad am ein tîm yn y maes parcio i’ch cynorthwyo â pharcio
Rydym yn edrych ymlaen yn arw i’ch croesawu, ac yn gobeithio y cewch amser bendigedig.
****
The team are very excited to welcome visitors to the Illuminations and late-night opening, which starts tomorrow, 13 December and runs until 23 December.
Here is the key information:
• We will be closing at 4pm to allow us to prepare for the evening events which all start at 4.30pm
• Entry to the Courtyard will be ticketed and tickets will be checked at the gates by our team
• Tickets are available from Visitor Reception on each date. They cannot be bought in advance and cannot be bought online
• It is free for National Trust members and standard entry prices apply to non-members
• If you visit during the day and wish to re-enter the Courtyard for the evening, please retain your ticket for the evening event
• We are anticipating it to be busy, so please be patient with our team and allow plenty of time to arrive, park and obtain your tickets. When arriving, please keep an eye out for our team in the car park who will assist you with parking
We hope that you have a fantastic time, and we cannot wait to welcome you.