Ymweld â’r Wladfa am 10 Mlynedd!
Eleni, rydym yn falch iawn o ddathlu 10 mlynedd o'n busnes teuluol Teithiau Tango - 10 mlynedd o drefnu gwyliau llwyddiannus i gannoedd o deithwyr hapus sydd wedi cael croeso eithriadol o gynnes gan ein ffrindiau ym Mhatagonia. Rydym yn bartneriaid i Brosiect Offerynnau Patagonia ac wedi cefnogi datblygiad yr iaith Gymraeg yn y Wladfa drwy ariannu athrawon i addysgu yn Ysgol Gymraeg y Gaiman a thrwy feithrin cysylltiadau rhwng ysgolion, cymdeithasau a phrifysgolion ym Mhatagonia a Chymru.th Yn ystod yr amser hwn rydym wedi gweld nifer o newidiadau ym Mhatagonia hefyd - dathlodd Ysgol yr Hendre, Trelew ei phen-blwydd yn 10 oed ym mis Mawrth 2016 gyda'r nifer o ddisgyblion yn codi o bump yn 2006, i bron i 90 heddiw. Rydym yn gweld mwy a mwy o bobl yr Ariannin sy'n hollol rhugl yn y Gymraeg. Agorodd Ysgol Gymraeg y Gaiman ei drysau fel ysgol ddwyieithog yn 2015. Yn dilyn ymdrech rhagorol gan y gymuned Gymraeg yn rhanbarth yr Andes, mae ysgol ddwyieithog Ysgol y Cwm wedi ei hadeiladu a'i hagor yn 2016, yn Nhrevelin.
Wrth i ni ddathlu 10 mlynedd, edrychwn ymlaen at lawer mwy o flynyddoedd o ddarparu gwasanaeth, gwybodaeth ac arbenigedd rhagorol i’n cwsmeriaid wrth drefnu teithiau llwyddiannus i Batagonia. Ac wrth wneud hynny, rhannu gyda chi'r rhan hyfryd hon o'r byd sydd mor ystyrlon i ni fel teulu o Gymry ac Archentwyr.
This year, we are delighted to be celebrating 10 years of our family business Teithiau Tango – 10 years during which we have successfully arranged holidays for hundreds of happy travellers who have received an incredibly warm welcome by our friends in Patagonia, become partners of the Patagonia Instrument Project and supported the development of the Welsh language by funding teachers to teach in Ysgol Gymraeg y Gaiman and by fostering connections between schools, societies and universities in Patagonia and Wales. During this time we have seen numerous changes in Patagonia too – Ysgol yr Hendre Trelew celebrated its 10th birthday in March 2016 with the number of pupils rising from just 5 in 2006, to almost 90 today, we are seeing more and more Argentines that are completely fluent in the Welsh language, Ysgol Gymraeg y Gaiman opened its doors as a bilingual school in 2015, and following an admirable effort by the Welsh community in the Andes region, the bilingual Ysgol y Cwm was built and opened in 2016, in Trevelin.
As we celebrate 10 years, we look forward to many more years of providing excellent customer service, knowledge and expertise in the organisation of successful tours to Patagonia, in doing so sharing with you this beautiful part of the world that is so meaningful to us as a Welsh-Argentine family.