Teithiau Patagonia - Patagonia Tours

Teithiau Patagonia - Patagonia Tours Dewch i Weld y Wladfa gyda Teithiau Patagonia. Join us for an experience in Welsh Patagonia

Dy ni yn edrych ymlaen yn fawr iawn i wylio'r rhaglen arbennig yma heno! GWLADFA: Gwilym Bowen Rhys ar S4C am 8 o'r gloc...
06/01/2025

Dy ni yn edrych ymlaen yn fawr iawn i wylio'r rhaglen arbennig yma heno!

GWLADFA: Gwilym Bowen Rhys ar S4C am 8 o'r gloch!

28/12/2024

Mae'n brofiad arbennig iawn i groesi'r Paith enwog ym Mhatagonia!

It truly is an unique and special experience to cross the Patagonian Steppe!

23/12/2024

🎉 Cyhoeddiad Cyffrous! 🌍

Mae’n bleser gennym gyhoeddi y bydd Rhys Meirion yn dychwelyd i Batagonia ym mis Tachwedd 2025 ar gyfer taith arbennig iawn! Mi fydd unwaith eto yn cael ei ymuno gan westai arbennig iawn – a fydd yn cael eu datgelu yn y Flwyddyn Newydd!

Bydd y daith unigryw hon yn cynnwys:
✨ Digwyddiad arbennig yn Buenos Aires, i ddathlu’r cysylltiad bywiog rhwng Cymru a'r Ariannin.
✨ 160 mlynedd ers i’r ymsefydlwyr cyrraedd ar y Mimosa yn 1865.
✨ Perfformiadau arbennig gan Rhys a’i westai ym Muenos Aires a'r Wladfa, i godi a***n ar gyfer ysgolion Cymraeg a phrosiectau iaith yn y rhanbarth.

Gyda’n gilydd, byddwn yn anrhydeddu hanes cyfoethog Y Wladfa tra’n cefnogi dyfodol yr iaith a’r diwylliant Cymraeg yn y rhan unigryw hon o’r byd.

📅 Nodwch y dyddiad (y dyddiad sy gennym mewn golwg ar y foment yw 13eg o Dachwedd 2025, am 17 diwrnod) a gwyliwch am y cyhoeddiad mawr am y gwesteion a manylion y daith arbennig hon.

Am rhagor o wybodaeth ac i gadw’ch lle, ewch i’n gwefan. Mae’n bosib sicrhau eich lle gyda blaendal ad-daladwy llawn o £500. Peidiwch â cholli cyfle i gymryd rhan yn y profiad bythgofiadwy hwn!

https://www.teithiaupatagonia.co.uk/taith-rhys-ai-westeion-ir-wladfa-2025/
-----------------------------------------------

🎉 Exciting Announcement! 🌍

We’re delighted to share that Rhys Meirion will return to Patagonia this November for an extraordinary cultural tour! Once again he will be joined by a special guest (or guests) – to be announced in the New Year!

This unforgettable journey will include:
✨ A special event in Buenos Aires, celebrating the vibrant Welsh-Argentinian connection.
✨ The 160th anniversary of the original settlers arriving on the Mimosa in 1865.
✨ Exclusive performances by Rhys and his guest(s) in Buenos Aires and Patagonia to raise funds for Welsh schools and language projects in the region.

Together, we’ll celebrate the rich history of 'Y Wladfa' while supporting the future of the Welsh language and culture in this unique part of the world.

📅 Save the date (Provisional departure date - 13th November 2025, for 17 days) and stay tuned for the big guest announcement and full tour details.

For more information and to reserve your place, visit our website. Secure your spot now with a fully refundable deposit of £500. Don’t miss this once-in-a-lifetime experience!

https://www.teithiaupatagonia.co.uk/taith-rhys-ai-westeion-ir-wladfa-2025/

Amser bythgofiadwy gyda Bryn a Rhys ym Mhatagonia!Ar gyfer eu hantur anhygoel i’r  Wladfa,’ fe wnaethom drefnu dau grŵp ...
22/12/2024

Amser bythgofiadwy gyda Bryn a Rhys ym Mhatagonia!

Ar gyfer eu hantur anhygoel i’r Wladfa,’ fe wnaethom drefnu dau grŵp WhatsApp i gadw pawb mewn cysylltiad ar gyfer y ddwy daith.

Dyma flas bach o rai o’r lluniau gwych gafodd eu tynnu gan y teithwyr yn ystod y daith—mae pob un yn adrodd ei stori unigryw am y tirweddau syfrdanol a’r eiliadau arbennig a rannwyd.

I wneud pethau hyd yn oed yn fwy arbennig, ymunodd ffotograffydd lleol proffesiynol â ni i ddogfennu’r profiad. Rydyn yn gweithio ar guradu’r delweddau hyfryd hyn, ac rydyn ni’n methu aros i’w rhannu gyda’n hymwelwyr, a chi yn fuan iawn! 🌟

www.teithiaupatagonia.co.uk
.................................................

An unforgettable journey with Bryn and Rhys in Patagonia!

For their incredible adventure to the Welsh-speaking region of 'Y Wladfa,' we organized two WhatsApp groups to keep everyone connected for both tour departures.

Here’s a sneak peek at a small selection of images captured by our travelers during the trip—each one tells its own story of the breathtaking landscapes and moments shared along the way.

To make it even more special, a professional local photographer joined us to document the experience. We’re currently curating these stunning images and can’t wait to share them with all our visitors, and you very soon!

www.teithiaupatagonia.co.uk

Mi wnaeth hwn i ni wenu yn fawr iawn heddiw!  Diolch yn fawr iawn i Gareth Morgans!  Mae yn hyfryd darllen y negeseuon h...
19/12/2024

Mi wnaeth hwn i ni wenu yn fawr iawn heddiw! Diolch yn fawr iawn i Gareth Morgans!

Mae yn hyfryd darllen y negeseuon hyfryd yr ydym wedi eu derbyn ar ôl cyrraedd yn ôl o Batagonia! Roedd Bryn a Rhys i'r Wladfa yn un arbennig iawn!

Mi fyddwn yn rhannu llawer mwy am y daith fyth gofiadwy yma gyda chi dros y Nadolig!

Clicwch yma i ddarllen cerdd arbennig Gareth:
https://www.paperturn-view.com/?pid=ODg8854437
....................................................

This made us smile very much today! Many thanks to Gareth Morgans!

It is wonderful to read the wonderful messages we have received after arriving back from Patagonia! Bryn and Rhys' Tour to Welsh Patagonia was a very special one!

We will share much more about this ever-memorable trip with you over Christmas!

Click here to read Gareth's special poem:
https://www.paperturn-view.com/?pid=ODg8854437

06/12/2024

Dyma brofiad arbennig ac emosiynol i'n criw wnaeth ymweld â Ysgol Yr Hendre Escuela ac Ysgol Gymraeg Gaiman Ysgol Feithrin yn gynharach yr wythnos yma!

Gydag ond ychydig funudau o ymarfer, roedd y plant yn canu fel eu bod wedi adnabod y gân ers blynyddoedd. Arbennig!!

Diolch Rhys Meirion am y profiad unigryw yma!

🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿❤️🇦🇷
www.teithiaupatagonia.co.uk

Profiad arbennig ddoe i'n ail grŵp ar taith Bryn Fôn a Rhys Meirion!Os yn ymuno gyda ni ar teithiau rhwng mis Mai a Rhag...
30/11/2024

Profiad arbennig ddoe i'n ail grŵp ar taith Bryn Fôn a Rhys Meirion!

Os yn ymuno gyda ni ar teithiau rhwng mis Mai a Rhagfyr, cewch hefyd y cyfle anhygoel hyn i weld y morfiloed anferth! 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿❤️🇦🇷

Profiad emosiynol iawn i'n criw yn y Wladfa ddoe!Diolchwn yn enfawr i Ysgol Yr Hendre Escuela  a Ysgol Gymraeg Gaiman Ys...
20/11/2024

Profiad emosiynol iawn i'n criw yn y Wladfa ddoe!

Diolchwn yn enfawr i Ysgol Yr Hendre Escuela a Ysgol Gymraeg Gaiman Ysgol Feithrin am eu croeso arbennig!

www.teithiaupatagonia.co.uk

Dy ni ond wedi bod yn yr Ariannin gyda grŵp cyntaf Taith Fôn a Rhys Meirion ers ychydig ddyddiau, ac mae'r profiadau yn ...
17/11/2024

Dy ni ond wedi bod yn yr Ariannin gyda grŵp cyntaf Taith Fôn a Rhys Meirion ers ychydig ddyddiau, ac mae'r profiadau yn rhai a fydd yn cael eu cofio am oes!

Mae'r croeso yn un dwym galon gan y gymuned arbennig yma ar draws Môr yr Iwerydd pob tro yr ydym yn ymweld

Hyd yn hyn yr ydym wedi cael ein croesawi gan Asoc Galesa Pto Madryn ac Ysgol Yr Hendre Escuela. Diolch enfawr iddynt am drefnu'r digwyddiadau arbennig ac emosiynol i'n croesawi.

Mae ein taith nesaf yn mynd i'r Wladfa dros wyliau'r Pasg. Cysylltwch nawr am ragor o wybodaeth ar ein gwefan.
www.teithiaupatagonia.co.uk

15/11/2024

Dyna beth oedd noson arbennig i'n croesawi i'r Wladfa yn Nhŷ Toschke (adeilad ysgol gyntaf Porth Madryn)

Diolch anferth i Asoc Galesa Pto Madryn (Cymdeithas Gymraeg Porth Madryn) am y noson fyth-gofiadwy!

Pleser oedd canu'r anthem genedlaethol yn eich cwmni.

🇦🇷❤️🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿

13/11/2024

Wel! Mae taith cyntaf Bryn Fôn a Rhys Meirion wedi cyrraedd Buenos Aires yn saff!

Pawb nawr yn gyffrous am y Sioe Tango heno, a'r siwrne lawr i weld ein ffrindiau yn y Wladfa yfory!

www.teithiaupatagonia.co.uk

GWAHODDIAD... i lansiad llyfr newydd Meirion Jones!Bydd y lansiad yng Nghastell Aberteifi ar y 27ain o Dachwedd am saith...
09/11/2024

GWAHODDIAD... i lansiad llyfr newydd Meirion Jones!

Bydd y lansiad yng Nghastell Aberteifi ar y 27ain o Dachwedd am saith o'r gloch.

Bydd cerddoriaeth fyw ar y noson, lluniaeth ysgafn a darlleniadau o'r llyfr "Patagonia - taith mewn paent".

Croeso i bawb sy'n ymhyfrydu yn y cyswllt gyda Phatagonia.

RSVP - cofiwch roi gwybod os ydych yn dymuno dod:
e-bost: [email protected]

11/10/2024

Wrth drefnu ein taith Bryn Fôn a Rhys Meirion i Batagonia, cafodd Rhys y syniad i gynnwys ein gwesteion yn y cyngherddau a’r nosweithiau llawen.

Felly, beth gwell na threfnu côr i ymuno â Bryn a Rhys ar y llwyfan.

Fel y gwelwch rydym wedi cael rhywfaint o ymarfer yn barod (yng Ngogledd a De Cymru).

Ar y 19eg o Hydref rydym i gyd yn cyfarfod yn Aberystwyth ar gyfer ein hymarfer olaf a chyfarfod gyda’r rhan fwyaf o’r ddau grŵp sy’n teithio gyda ni i’r Wladfa ym mis Tachwedd.

www.teithiaupatagonia.co.uk
............

When arranging our Bryn Fôn and Rhys Meirion tour to Patagonia, Rhys had the idea to involve our guests in the concerts and informal evenings.

So, what better than to arrange a choir to join Bryn and Rhys on stage.

As you can see we've already had some rehearsal (in the North and South of Wales).

On the 19th of October we all meet in Aberystwyth for our final practice and a meeting with most from the two groups that are travelling with us to the Wladfa in November.

www.teithiaupatagonia.co.uk

Rydym yn gyffrous i gyhoeddi bod ein dwy daith gyda Bryn Fôn a Rhys Meirion ym mis Tachwedd bellach yn llawn!Mae ein tei...
10/09/2024

Rydym yn gyffrous i gyhoeddi bod ein dwy daith gyda Bryn Fôn a Rhys Meirion ym mis Tachwedd bellach yn llawn!

Mae ein teithiau yn 2025 hefyd yn prysur lenwi, i ddathlu 160 mlynedd ers glaniad y Cymry gyda’r Mimosa ym Mhatagonia.

Rydym yn cynnig y teithiau cyffrous canlynol:
- Taith y Pasg 2025 – Ebrill 2025
- Taith y ‘Gauchos Cymreig’ – Medi 2025
- Taith Eisteddfod y Wladfa – Hydref 2025
- Ymweliad Grŵp Mawr – Digwyddiad Buenos Aires a'r Wladfa

Peidiwch â cholli allan ar y profiadau unwaith-mewn-oes hyn!

Cysylltwch â ni am fanylion pellach.

Diolch am eich cefnogaeth!

www.teithiaupatagonia.co.uk

🇦🇷🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿🇦🇷🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿🇦🇷🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿🇦🇷🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿🇦🇷🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿🇦🇷🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿🇦🇷🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿🇦🇷🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿

We are excited to announce that both of our tours with Bryn Fôn and Rhys Meirion this November are now fully booked!

Our 2025 tours are also filling up fast, in celebration of the 160th anniversary of the Welsh landing with the Mimosa in Patagonia. We are offering the following thrilling tours:
- Easter Tour 2025 – April 2025
- The 'Welsh Gauchos' Tour – September 2025
- 'Eisteddfod y Wladfa' Tour – October 2025
- Large Group Visit – Buenos Aires Event & Welsh Patagonia

Don’t miss out on these once-in-a-lifetime experiences!

Contact us for further details.

Thank you for your continued support!

www.teithiaupatagonia.co.uk

Dyna beth oedd wythnos a hanner! Dy ni wedi bod yn dawel yma ar Facebook tra yn trefnu ein stondin yn yr Eisteddfod!Mae'...
04/08/2024

Dyna beth oedd wythnos a hanner! Dy ni wedi bod yn dawel yma ar Facebook tra yn trefnu ein stondin yn yr Eisteddfod!

Mae'n hyfryd gweld y diddordeb yn ein teithiau.

Os ydych ym Mhontypridd, a diddordeb mewn teithio i'r Wladfa, galwch mewn i'n gweld ni ar stondin 219-220.

www.teithiaupatagonia.co.uk

Address

Aberystwyth

Alerts

Be the first to know and let us send you an email when Teithiau Patagonia - Patagonia Tours posts news and promotions. Your email address will not be used for any other purpose, and you can unsubscribe at any time.

Contact The Business

Send a message to Teithiau Patagonia - Patagonia Tours:

Videos

Share

Category