Croeso i Ben-y-bont ar Ogwr

Croeso i Ben-y-bont ar Ogwr Croeso i Sir Pen-y-bont ar Ogwr. Saesneg: https://www.facebook.com/VisitBridgendCounty/ Dewch i ymweld â Phen-y-bont ar Ogwr – Syrffio, Dringo, Golygfeydd.

Dewch i archwilio arfordir godidog, tirwedd anhygoel a gwarchodfeydd natur hudolus Sir Pen-y-bont ar Ogwr

Ar frig y don = ar ben y byd! 🏄Os ydych chi’n syrffiwr profiadol neu’n dechrau arni, mae ein harfordir ni’n llecyn perff...
26/02/2025

Ar frig y don = ar ben y byd! 🏄

Os ydych chi’n syrffiwr profiadol neu’n dechrau arni, mae ein harfordir ni’n llecyn perffaith i fynd allan ar y tonnau! Edrychwch ar ein hysgolion syrffio lleol ni am sesiynau tywys:

🌊 Coney surf
🌊 Porthcawl Surf School
🌊 Karma Seas cic

📷

www.visitbridgend.co.uk

Weithiau mae’r machlud yn well o’i rannu! 🌄O’r mynyddoedd i’r arfordir, mae lleoliadau epig i fwynhau’r machlud yn Sir P...
25/02/2025

Weithiau mae’r machlud yn well o’i rannu! 🌄

O’r mynyddoedd i’r arfordir, mae lleoliadau epig i fwynhau’r machlud yn Sir Pen-y-bont ar Ogwr!

📷
📍 Mynydd y Bwlch

www.visitbridgend.co.uk

25/02/2025

Ymunwch â Bridgend Town Council a’r Welsh Guards s am eu Parêd Dydd Gŵyl Dewi a’u Seremoni Rhoi Cenhinen 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿🌼

📅Dydd Sadwrn 1 Mawrth
📍Canol Tref Pen-y-bont ar Ogwr

Yn gorymdeithio drwy strydiedd i ymarfer eu Rhyddid o Fwrdeistref Pen-y-bont ar Ogwr am y tro cyntaf, bydd y parêd yn gadael y Ganolfan Fowlio, Stryd yr Angel am 10.20am, gan orffen gyda seremoni draddodiadol o roi cenhinen i bersonél sy’n gwasanaethu, yn y Gofeb Rhyfel yn Dunraven Place, am 11am, gyda’r Arglwydd Raglaw Morgannwg Ganol, Peter Vaughan.

Bydd y parêd yn cael ei arwain gan 60 o Fataliwn Cyntaf y Gwarchodlu Cymreig, ac yn cynnwys 250 o Gyn-filwyr Cymdeithas y Gwarchodlu Cymreig, a hyd at 50 cadét 💂🥁

‼Bydd ffyrdd ar gau a chyfyngiadau parcio mewn lle gyda mynediad cyfyngedig i ganol y dref, a strydoedd sydd wedi’u cynnwys yn llwybr y parêd.

Dysgwch ragor am y digwyddiad, a pha strydoedd caiff eu heffeithio 👇

🔗https://www.penybontarogwr.gov.uk/newyddion/y-gwarchodlu-cymreig-yn-ymuno-a-chyngor-tref-pen-y-bont-ar-ogwr-ar-gyfer-gorymdaith-dydd-gwyl-dewi/

Trefnwyd y digwyddiad hwn gan Gyngor Tref Pen-y-bont ar Ogwr mewn partneriaeth â’r Gwarchodlu Cymreig, gyda chymorth gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a Heddlu De Cymru.

I ddod yn Sir Pen-y-bont ar Ogwr…
25/02/2025

I ddod yn Sir Pen-y-bont ar Ogwr…

Allwch chi ddyfalu pa gerflun lleol sy'n fframio'r llun arfordirol hardd yma? 🗿📷 .justa
23/02/2025

Allwch chi ddyfalu pa gerflun lleol sy'n fframio'r llun arfordirol hardd yma? 🗿

📷 .justa

Golygfa hudolus yng Nghwm Llynfi! 📷Cerflun Ceidwad y Lofa gyda chefnlen binc a phorffor anhygoel! Am wledd!📷 .liddiard  ...
20/02/2025

Golygfa hudolus yng Nghwm Llynfi! 📷

Cerflun Ceidwad y Lofa gyda chefnlen binc a phorffor anhygoel! Am wledd!

📷 .liddiard

Os ydych chi eisiau ymlacio, dathlu neu grwydro, mae gan Coed y Mwstwr Hotel Bridgend rywbeth arbennig ar eich cyfer chi...
18/02/2025

Os ydych chi eisiau ymlacio, dathlu neu grwydro, mae gan Coed y Mwstwr Hotel Bridgend rywbeth arbennig ar eich cyfer chi …

🧘🏼‍♀️ Adfywio | 23.02.25
🍴 Cinio Gourmet Dydd Gŵyl Dewi Stephen Terry | 01.03.25
🌸 Cinio Sul y Mamau | 30.03.25
🎨 Inc a Drinc Sul y Mamau | 30.03.25
🥂 Priodferched Pefriog | 26.04.25
💍 Arddangosfa'r Gwanwyn | 27.04.25

🔗 Archebwch eich lle nawr! https://coed.townandcountrycollective.co.uk/

Beth am i ni siarad am gariad ar Ddydd San Ffolant eleni…♥️Rydyn ni’n CARU tirweddau amrywiol Sir Pen-y-bont ar Ogwr, ei...
14/02/2025

Beth am i ni siarad am gariad ar Ddydd San Ffolant eleni…♥️

Rydyn ni’n CARU tirweddau amrywiol Sir Pen-y-bont ar Ogwr, ei harddwch naturiol a’i threftadaeth gyfoethog – heb sôn am yr holl lefydd gwych i fwyta, yfed, siopa, cael anturiaethau a chreu atgofion oes!

Dywedwch wrthyn ni beth rydych chi'n ei garu am Sir Pen-y-bont ar Ogwr yn y sylwadau 👇

📷 .walks

Y tawelwch vs y storm…Rydyn ni wrth ein bodd gyda’r cyferbyniad yn y lluniau yma o Bier Porthcawl gan Tony John 📷Boed yn...
11/02/2025

Y tawelwch vs y storm…

Rydyn ni wrth ein bodd gyda’r cyferbyniad yn y lluniau yma o Bier Porthcawl gan Tony John 📷

Boed yn cofnodi tonnau ffyrnig neu godiad haul tawel, rydyn ni’n credu bod y ddau lun yn syfrdanol! 🌊 🌅

04/02/2025

Mae Sir Pen-y-bont ar Ogwr yn eich gwahodd chi i ymweld â Phen-y-bont ar Ogwr i deimlo’r hwyl yn 2025! 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿

Camwch yn ôl mewn amser y gaeaf yma! 🏰Cyfle i archwilio adfeilion castell sydd â channoedd o flynyddoedd o hanes yng Ngh...
04/02/2025

Camwch yn ôl mewn amser y gaeaf yma! 🏰

Cyfle i archwilio adfeilion castell sydd â channoedd o flynyddoedd o hanes yng Nghoety a Newcastle, yn ogystal ag Ogwr gerllaw – a’r cyfan yn cynnig cyfle i chi gael eich cludo’n ôl mewn amser wrth fwynhau awyr iach a theithiau cerdded dros y gaeaf.

Mae mwy o ysbrydoliaeth ar gyfer eich trip chi yn ein blog diweddaraf ni: https://www.visitbridgend.co.uk/be-inspired/5-ways-to-embrace-a-happy-healthy-new-year-with-the-great-outdoors-of-bridgend-county

📷
📷
📷

Gan ei bod yn Ddiwrnod Santes Dwynwen fory, y diwrnod Cymreig i ddathlu cariad – beth am ei dreulio gyda'r rhai agosaf a...
24/01/2025

Gan ei bod yn Ddiwrnod Santes Dwynwen fory, y diwrnod Cymreig i ddathlu cariad – beth am ei dreulio gyda'r rhai agosaf atoch chi, gan fwynhau profiad coginio o'r radd flaenaf! 😍

O fwydydd rhyngwladol moethus i fwytai clyd a bwyd stryd bywiog, mae sîn bwyd Sir Pen-y-bont ar Ogwr yn gwbl ryfeddol! 🔥

📷 Wayne's Eats yn Brewery Field Street Food

Edrychwch ar ein gwefan ni am ysbrydoliaeth i gynllunio eich ymweliad! 🍴
https://www.visitbridgend.co.uk/be-inspired/a-culinary-journey-through-bridgend-county---a-dream-destination-for-foodies

Gyda gofod awyr agored eang yn ymestyn dros gopaon mynyddoedd i’r arfordir, mae Sir Pen-y-bont ar Ogwr yn cynnig cyfleoe...
23/01/2025

Gyda gofod awyr agored eang yn ymestyn dros gopaon mynyddoedd i’r arfordir, mae Sir Pen-y-bont ar Ogwr yn cynnig cyfleoedd diddiwedd i archwilio’r byd naturiol! 🌿

Parc Calon Lân
📷

Ysbryd Coetir Llynfi
📷

Gwarchodfa Natur Parc Slip
📷 .welshie

Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cwninger Merthyr Mawr
📷 .walks

Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cynffig
📷

Parc Gwledig Bryngarw
📷

Dysgwch fwy am warchodfeydd natur, parciau a llwybrau natur yn ein blog diweddaraf ni! https://www.visitbridgend.co.uk/be-inspired/5-ways-to-embrace-a-happy-healthy-new-year-with-the-great-outdoors-of-bridgend-county

Tri Chwm. Golygfeydd diddiwedd. Os mai Cwm Llynfi, Cwm Garw neu Gwm Ogwr rydych chi'n dewis ei grwydro – ’fyddwch chi by...
21/01/2025

Tri Chwm. Golygfeydd diddiwedd.

Os mai Cwm Llynfi, Cwm Garw neu Gwm Ogwr rydych chi'n dewis ei grwydro – ’fyddwch chi byth yn bell o olygfeydd anhygoel o'r mynyddoedd! 🌄

📷 Cwm Ogwrcottage_canerbachlodge

📷 Cwm Garwmtb

📷 Cwm Llynfi


https://www.visitbridgend.co.uk/pages/the-valleys

Address

Civic Office, Angel Street
Bridgend
CF314WB

Alerts

Be the first to know and let us send you an email when Croeso i Ben-y-bont ar Ogwr posts news and promotions. Your email address will not be used for any other purpose, and you can unsubscribe at any time.

Contact The Business

Send a message to Croeso i Ben-y-bont ar Ogwr:

Videos

Share

Our Story

Dewch i ymweld â Phen-y-bont ar Ogwr – Syrffio, Dringo, Golygfeydd.

Dewch i archwilio arfordir godidog, tirwedd anhygoel a gwarchodfeydd natur hudolus Sir Pen-y-bont ar Ogwr