23/04/2021
Yr hyn rydym ni’n ei wneud:
Mae’r diwydiant telathrebu ar ben ffordd i ddarparu Cysylltiad Ffeibr i'r Adeilad (FTTP) ledled y DU gydag ymrwymiad gan y Llywodraeth i gyflawni hyd at 85% o fynediad ffeibr llawn erbyn 2025. Mae Trenches Law yn ymdrechu i fod wrth wraidd y twf hwn, drwy gefnogi ein cleientiaid i gyflawni cymdeithas dra chysylltiedig a darparu gwasanaethau cyfreithiol ar sail perthnasoedd ac aflonyddu’r ymagwedd draddodiadol at dwf digidol.
Mae Trenches Law yn gweithio gyda rhai o weithredwyr telathrebu, cyfanwerthwyr ac ailwerthu mwyaf y DU, gan ddarparu gwasanaethau cyfreithiol, negodi a chaffael fforddfreiniau, cymwysiadau pŵer cod a llawer mwy. Rydym ni’n dod i’r amlwg yn gyflym fel un o gwmnïoedd cyfreithiol adnabyddus yn y sector hwn, sy’n tyfu’n gyflym, ond rydym ni’n wahanol iawn i’ch practis cyfreithiol arferol! Rydym yn ymfalchïo ar siarad yn ddi-flewyn-ar-dafod ac am fod yn arloesol ac yn egnïol, a bod yn angerddol dros ragori ar ddisgwyliadau cleientiaid bob amser.
Rydym yn cynnig amgylchedd gwaith gyda naws awthentig a brwdfrydig. Nid yn unig y byddwch chi’n helpu i lywio cysylltedd y gymdeithas ar gyfer y dyfodol, byddwch yn rhan o dîm gwych sy’n frwdfrydig am ddatblygu ac a fydd yn darparu digonedd o gyfleoedd i chi gyflawni eich potensial llawn!
Y swydd:
Fel Swyddog Ymgysylltu Cymunedol, byddwch yn gyfrifol am gynorthwyo wrth gaffael cytundebau fforddfraint gan berchnogion tir, perchnogion eiddo, asiantaethau tai ac asiantau rheoli, ynghyd â mathau eraill o rydd-ddeiliaid. Fel Swyddog Ymgysylltu Cymunedol, byddwch yn gyfrifol am gynorthwyo wrth gaffael cytundebau fforddfraint gan berchnogion tir, perchnogion eiddo, asiantaethau tai ac asiantau rheoli, ynghyd â mathau eraill o rydd-ddeiliaid. Bydd rhan fawr o’ch cyfrifoldebau yn cynnwys trefnu cyfarfodydd wyneb yn wyneb a datrys unrhyw ymholiadau y gallai fod gan rydd-ddeiliaid mewn perthynas â gwaith sifil neu geblau neu dermau fforddfreinio.
Byddwch yn gweithio ar draws prosiectau ar gyfer sawl gweithredwr telathrebu ac yn gyfrifol am ddatblygu a chynnal perthnasoedd. Gan ddefnyddio perthnasoedd presennol ac yn gweithio i derfynau amser tynn, byddwch yn cefnogi prosesau ein swyddogion fforddfreinio a thimoedd cyfreithiol. Yn y pen draw, bydd hyn yn cyflymu’r broses o gaffael hawliau perthnasol, gan ei gwneud hi’n bosib i’n cleientiaid gyflawni eu targedau
Cyfrifoldebau allweddol:
- Cyfathrebu’n rhagweithiol (yn eu hiaith ddewisol lle bo’n briodol) gydag asiantau tir ar y safle, perchnogion eiddo, cyfreithwyr, awdurdodau lleol etc.
- Ymchwiliadau ar y safle i ddatrys unrhyw wrthdaro a gwneud cynnydd tuag at dargedau
- Rheoli dyddiadur personol i sicrhau’r defnydd gorau o amser
- Negodi termau fforddfreiniau, hysbysiadau statudol a ffurfioldebau eraill ar gyfer cael mynediad i dir preifat
- Trafod â rhydd-ddeiliaid etc. mewn perthynas â gwaith sifil a cheblau a sut y caiff hyn ei gyflawni ar dir preifat
- Dadansoddi a gwerthuso cronfeydd data a chynlluniau i gadarnhau a gwirio perchnogaeth tir preifat
- Cynnal perthnasoedd rhagorol â chleientiaid a rheoli disgwyliadau cleientiaid drwy gyfathrebu dros MS Teams, e-byst, llythyrau a galwadau ffôn
- Bod yn gyfrifol am adrodd am gynnydd fforddfreinio a metrigau yn fewnol ac yn allanol
Gwybodaeth a phrofiad:
- Dealltwriaeth o ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â hawliau dros dir, yn enwedig Cod Cyfathrebu Electronig yn Atodlen 3A Deddf Cyfathrebiadau 2003 (fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf yr Economi Ddigidol 2017).
- Mae dealltwriaeth o rwydweithiau FTTP a dulliau adeiladu yn ddymunol
- Profiad o weithio gyda dogfennaeth gyfreithiol
- Y gallu i weithio ar sawl tasg ar yr un pryd a llwyddo dan bwysau mewn amgylchedd prysur iawn
- Bod yn gymwys wrth ddefnyddio Microsoft Office
- Bydd dealltwriaeth o fforddfreiniau a’r broses rheoli fforddfreiniau yn fantais fawr!
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus:
- Lefelau uchel o broffesiynoldeb
- Hunan-gymhelliad
- Ei gludiant ei hun
Cymwysterau:
- Mae gradd israddedig mewn maes cysylltiedig yn ddymunol
Ni fwriedir i’r disgrifiad swydd hwn fod yn gynhwysfawr. Disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus fabwysiadu agwedd hyblyg at y dyletswyddau a allai amrywio (yn dilyn trafodaeth), yn amodol ar anghenion y busnes ac yn unol â phroffil cyffredinol y rôl.
Rydym ni’n gyflogwr cyfleoedd cyfartal sy’n ymrwymedig i sicrhau y caiff pawb eu cefnogi a’u trin yn deg. Os oes angen addasiadau arnoch ar gyfer eich cyfweliad, rhowch wybod i ni.