06/12/2024
𝐑𝐇𝐘𝐁𝐔𝐃𝐃 𝐓𝐘𝐖𝐘𝐃𝐃 𝐂𝐎𝐂𝐇 - 𝐆𝐖𝐘𝐍𝐓𝐎𝐄𝐃𝐃 𝐂𝐑𝐘𝐅𝐈𝐎𝐍 - 𝐀𝐑 𝐆𝐘𝐅𝐄𝐑 𝐘𝐍𝐘𝐒 𝐌𝐎𝐍, 𝐁𝐎𝐑𝐄 𝐒𝐀𝐃𝐖𝐑𝐍: 𝐏𝐄𝐑𝐘𝐆𝐋 𝐈 𝐅𝐘𝐖𝐘𝐃
Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi’r rhybuddion tywydd canlynol ar gyfer Ynys Môn dros y dyddiau nesaf:
• Rhybudd tywydd melyn ar gyfer gwyntoedd cryf (Dydd Gwener 15:00 - 03:00 dydd Sadwrn)
• Rhybudd tywydd melyn am law (Dydd Gwener 15:00 - 12:00 Dydd Sadwrn)
• 𝐑𝐡𝐲𝐛𝐮𝐝𝐝 𝐭𝐲𝐰𝐲𝐝𝐝 𝐜𝐨𝐜𝐡 𝐚𝐫 𝐠𝐲𝐟𝐞𝐫 𝐠𝐰𝐲𝐧𝐭𝐨𝐞𝐝𝐝 𝐜𝐫𝐲𝐟 (𝐃𝐲𝐝𝐝 𝐒𝐚𝐝𝐰𝐫𝐧 𝟎𝟑:𝟎𝟎 - 𝟏𝟏:𝟎𝟎) (𝐏𝐞𝐫𝐲𝐠𝐥 𝐢 𝐟𝐲𝐰𝐲𝐝)
• Rhybudd tywydd oren ar gyfer gwyntoedd cryf (dydd Sadwrn 11:00 - 21:00)
• Rhybudd tywydd melyn ar gyfer gwyntoedd cryf (dydd Sadwrn 21:00 - 06:00 dydd Sul)
Cadwch lygad ar wefan Met Office am ddiweddariadau rhybuddion tywydd rheolaidd.
O ganlyniad i’r rhybuddion tywydd uchod, mae’n bosib y bydd angen cau Pont Britannia am gyfnodau o amser – gall hyn gynnwys cau’n llawn ar gyfer pob cerbyd yn ystod y rhybudd tywydd coch.
Dilynwch Traffig Cymru Gogledd a Chanolbarth Traffic Wales North & Mid am y diweddariadau traffig yng Ngogledd Cymru.
Rydym hefyd yn rhagweld efallai y bydd angen cau rhai ffyrdd ar draws Ynys Môn am gyfnodau o amser oherwydd fod coed wedi disgyn.
Byddwn yn diweddaru ein hadran sylwadau (comments section) isod os / pan fydd ffyrdd ar gau.
Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru / Natural Resources Wales yn darparu gwybodaeth am rybuddion llifogydd a chyngor.
Cynlluniwch ymlaen llaw a teithiwch, dim ond os oes angen, yn ystod y cyfnodau yma.
MônFM Medrwn Môn Holyhead Town Council - Cyngor Tref Caergybi Cyngor Tref Llangefni - Llangefni Town Council Cyngor Tref Porthaethwy/Menai Bridge Town Council. Grwp Cymunedol / Community Group Tai Môn Housing