Gweithdy Sêr a Cherrig Stori gyda Kerry Curson
Dydd Mercher 7 Awst
Mae gennym hefyd gelf a chrefftau am ddim heddiw gydag Annibendod! Byddwch yn greadigol rhwng 10am a 3pm. 🎨 😀
Gobeithiwn y byddwch yn ymuno â ni am ddiwrnod o ddigwyddiadau arbennig i’r teulu cyfan, i ddathlu’r achlysur! 🛟 😀
Canu gyda Ukulele Pirates!
Calon a Chymuned: RNLI 200 Cymru ar agor heddiw!
#RNLI200
Mae pethau cyffrous yn dod i Oriel Amgueddfa Cymru gyda dyfodiad ein harddangosfa newydd Calon a Chymuned: RNLI 200 Cymru.
Mae'r paratoadau wedi hen ddechrau yma! Mae hwyl jib cynfas o’r bad achub y Charterhouse wedi'i hongian yn ddiogel (ar fenthyg o Amgueddfa Forwrol Gorllewin Cymru) a hefyd mae’r paneli graffeg yn dechrau cael eu gosod. Cadwch lygad am fwy o gipolwg, wrth i'r trefniadau barhau trwy gydol yr wythnos.
🛟 Mae ein harddangosfa newydd, Calon a Chymuned yn dechrau ar 29 Mehefin i ddathlu 200 mlynedd o Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub. Cewch eich ysbrydoli gan straeon pobl gyffredin yn gwneud pethau anghyffredin, gyda gemau a gweithgareddau i'r teulu cyfan.
#RNLI200Cymru #AmgueddfaCymru
Uchafbwyntiau gorymdaith y ddraig 😄🌧🌤☀🌧🌧
#dragonparade #stdavidsday
Bore ffantastig, diolch i bawb a ddaeth i Gorymdaith y Ddraig heddiw! 😄🐉❤
Mae ein ŵy draig wedi mwynhau taith gofiadwy – diolch yn fawr iawn i bawb sydd wedi gofalu am yr wy ar ei deithiau. Ymunwch â Gorymdaith y Ddraig yfory, o 11am, i weld a yw'r wy anferth yn ddigon cynnes i ddeor!