05/02/2025
We will be having our first retreat in Welsh in Marrakech in May. We will offer an English retreat later in the year!
🌸 Encil Ioga Unigryw i Ferched Cymraeg ym Marrakech 🌸
Helo, ferched! Rydym yn gyffrous iawn i rannu ein Encil Ioga 4 Noson cyntaf o’i fath yn Marrakesh ar gyfer merched Cymraeg sy’n mynd drwy perimenopos a menopos.🧘♀️🌍
Byddwn yn aros mewn riad moethus sydd newydd ei agor, felly yr ydym yn cymeryd mantais i gynnal yr encil yma gyda gostyngiad arbennig o 50%. Mae hwn yn bris rhagarweiniol unigryw, ac mae’n gyfle na fydd yn dod eto!
Mae’r riad yn cynnwys shala ioga, teras to Berber, pwll nofio ac ystafelloedd en suite cyfforddus a mwy.
Bydd yr encil yn cynnwys:
✨ Ioga a myfyrdod dyddiol wedi’u harwain gan Elen Haf.
✨ Trochfa gong arbennig i’ch helpu i ymlacio’n llwyr.
✨ Seremoni cacao a dawns egstatig i ysbrydoli’r enaid.
✨ Noson hudolus yn anialwch Agafay, gyda marchogaeth camel, myfyrdod, a swper traddodiadol dan y sêr.
✨ Amser i archwilio’r medina neu ymlacio yn y riad.
✨ Brecinio a phryd gyda’r nos wedi’u cynnwys bob dydd.
📅 Dewiswch eich dyddiad:
➡️ Mai 21 - 25
➡️ Mehefin 12 - 16
Rydym yn deall ei fod yn gynnig sydyn, ond bydd y profiad werth pob eiliad!
Os oes gennych ddiddordeb neu gwestiynau:
➡️ Cysylltwch ag Elen Haf am unrhyw gwestiynau am yr ioga a’r myfyrdod.
➡️ Cysylltwch ag Elen Aalla am unrhyw gwestiynau am deithio, llety, ac ati.
🌴 Ymunwch â ni am brofiad bythgofiadwy a moethus ym Marrakech. 🌸
Pris: £950
Blaendal o £440 i’w dalu erbyn Mawrth 23ain i sicrhau lle. Gweddill y tal erbyn Ebrill 30ain.
Mwy o wybodaeth i’w gael: https://www.kaoukitours.com/6-days-yoga-retreat-1
Diolch yn fawr,
Elen Haf ac Elen Aalla 💖