Tywysydd - Tour Guide

Tywysydd - Tour Guide Blue Badge tour guide Deian ap Rhisiart - Tywysydd proffesiynol. teithiau hanes. historic tours. tywysydd | tour guide Deian ap Rhisiart.

I’m a first language Welsh speaker and I live in Rhosgadfan with my family. Gradd uwch mewn hanes, a tywysydd proffesiynol ers bron i ddeng mlynedd. Yn cynnig teithiau cerdded mewn trefi hanesyddol, teithiau mewn cestyll a safleoedd o bwysigrwydd hanesyddol yng Nghymru. Heritage tours in historic towns, guided tours in castles and other sites of historical importance in Cymru.

Fues i'n cynnal dwy daith yn Abaty Glyn y Groes ar gyfer aelodauCSSC Wales Cadw Bu'r abaty hon yn ganolfan bwysig iawn y...
28/10/2024

Fues i'n cynnal dwy daith yn Abaty Glyn y Groes ar gyfer aelodauCSSC Wales Cadw Bu'r abaty hon yn ganolfan bwysig iawn yn noddi beirdd yr uchelwyr yn cynnwys Guto'r Glyn am ganrifoedd rhwng 1201 a 1535. Sylfaenydd yr abaty Sistersaidd oedd Madog ap Gruffydd Maelor - ei daid oedd Owain Gwynedd ac yr oedd yn hen hen daid i Owain Glyn Dŵr. Y ddolen gyswllt allweddol rhwng y mab darogan a thras tywysogion Gwynedd.

Leading two guided tours in Valle Crucis for members of CSSC. This abbey was an important centre for the patronage of Beirdd yr Uchelwyr (the bards of the gentry) between 1201 and 1535. The patron of this Cistercian abbey was Madog ap Gruffydd Maelor, his grandfather was Owain Gwynedd and he was the great great grandfather of the Tywysog Cymru, Owain Glyn Dŵr.

Wedi anghofio anfon lluniau o ddydd Sul diwethaf ym Marclodiad y Gawres fel rhan o fis Drysau Agored. Daeth dros 80 o bo...
03/10/2024

Wedi anghofio anfon lluniau o ddydd Sul diwethaf ym Marclodiad y Gawres fel rhan o fis Drysau Agored. Daeth dros 80 o bobl o bell iawn (North Carolina a San Francisco) ag agos iawn i ymweld â'r siambr gladdu. Cadw Wedi mwynhau'n arw y profiad eto 'leni.
Forgot to send photos from last Sunday at Barclodiad y Gawres as part of Open Doors month. Over 80 people came from as far as North Carolina and San Francisco and very near to visit the burial chamber. Thoroughly enjoyed the privilege yet again this year. Cyngor Sir Ynys Môn Ynys Môn À Mõr

Castell Cricieth ddoe. Diwrnod ola 2024 yn tywys yno. Torf dda wedi dod i gloi'r tymor. Cadw  Yesterday at Cricieth Cast...
29/09/2024

Castell Cricieth ddoe. Diwrnod ola 2024 yn tywys yno. Torf dda wedi dod i gloi'r tymor. Cadw

Yesterday at Cricieth Castle. The last day of guiding in 2024. A good turnout to close the year. Hwb Cricieth - Criccieth Hub

Diwrnod ola Drysau Agored. Dewch draw! Last day of Open Doors Cadw
28/09/2024

Diwrnod ola Drysau Agored. Dewch draw!
Last day of Open Doors Cadw

Heddiw | Today. Dewch draw!
28/09/2024

Heddiw | Today. Dewch draw!

𝗣𝗼𝘀𝘁 𝗱𝘄𝘆𝗶𝗲𝗶𝘁𝗵𝗼𝗴 / 𝗕𝗶𝗹𝗶𝗻𝗴𝘂𝗮𝗹 𝗽𝗼𝘀𝘁

📣Castell Cricieth - 28/09/2024

Dewch ar daith gyda’r tywysydd Deian ap Rhisiart i
gyfarfod cyfrinachau’r castell a adeiladwyd yn wreiddiol
gan Llywelyn Fawr.

Awr o daith yn chwilota rhwng muriau trawiadol Castell
Cricieth.

Bydd y digwyddiad yn daith gerdded a fydd yn para 60
munud yn dechrau yn y ganolfan groeso ac yn cael ei
arwain rhwng muriau Castell Criccieth. Bydd yna
gyfyngiadau symudedd mewn mannau ar y daith ond
addas i'r teulu

Teithiau am 11am, 1pm a 3pm

🔗https://ow.ly/R48z50TmZyf

-----------------------------------------------------------------------------------

Take a tour with guide Deian ap Rhisiart and discover the secrets of the castle that was originally built by Llywelyn the Great.

An hour’s tour exploring inside the spectacular walls of Castell Cricieth.

The event will be a walking tour lasting an hour, starting at the welcome centre and guided within the walls of Castell Cricieth. There will be restricted mobility on the tour at times but it is suitable for families.

Tours at 11am, 1pm and 3pm.

🔗https://ow.ly/FLHX50TmZye..

Cadw Dydd Sadwrn yma.  Hwb Cricieth - Criccieth Hub Teithiau tywys ola 2024 yng Nghastell Castell Cricieth  Dewch draw! ...
26/09/2024

Cadw Dydd Sadwrn yma. Hwb Cricieth - Criccieth Hub Teithiau tywys ola 2024 yng Nghastell Castell Cricieth Dewch draw!

This Saturday.

These are the last guided tours of 2024 at Cricieth Castle. Come along!

Dros 70 wedi dod i Farclodiad y Gawres heddiw Cadw Amryw o sgyrsiau diddorol am ddaeareg y cerrig (diolch i ddaearegwr d...
22/09/2024

Dros 70 wedi dod i Farclodiad y Gawres heddiw Cadw Amryw o sgyrsiau diddorol am ddaeareg y cerrig (diolch i ddaearegwr ddaeth heibio) a'r lleoliad. Mae hi wastad yn fraint gwneud y drysau agored blynyddol yn y lle rhyfeddol yma. 'Nol ddydd Sul ar y 29ain.

Over 70 came to Barclodiad y Gawres today for the annual Open Doors. Lot of discussion about the geology of the stone ( thank you to the geologist that came to visit) and the location. It is always an honour to guide at this special place. Back here this Sunday on the 29th.

Awydd dod draw i hwn fory? Gaddo tywydd braf.  Cadw Come along to this tomorrow  Cyngor Sir Ynys Môn
21/09/2024

Awydd dod draw i hwn fory? Gaddo tywydd braf. Cadw
Come along to this tomorrow Cyngor Sir Ynys Môn

Dydd Owain Glyn Dŵr hapus. Y mab darogan. Owain ap Gruffudd o Lyndyfrdwy. Y dyn efo'r weledigaeth i greu Cymru annibynno...
16/09/2024

Dydd Owain Glyn Dŵr hapus. Y mab darogan. Owain ap Gruffudd o Lyndyfrdwy. Y dyn efo'r weledigaeth i greu Cymru annibynnol.

Happy Owain Glyn Dŵr Day. The son of prophesy. Visionary. Owen Rhoscomyl: "Glyndwr is not buried, but alive in the hearts of all true Welshmen [and women]"

Dydd Glyndŵr Hapus! - ar Medi 16eg 1400, cyhoeddwyd Owain Glyndŵr yn Dywysog Cymru yn Glyndyfrdwy gan grŵp mawr o'i deulu, ffrindiau a chefnogwyr ar ddechrau ei Gwrthryfel.
https://www.owain-glyndwr.cymru/who_was_owain_glyn_dwr.html
Happy Glyndŵr Day! - on September 16th 1400, Owain Glyndŵr was proclaimed Tywysog Cymru (prince of Wales) in Glyndyfrdwy by a large group of his family, friends and supporters at the start of his War for Independence.
https://owain-glyndwr.wales/who_was_owain_glyn_dwr.html

Er gwaetha'r glaw drwy'r dydd, daeth bron i 30 heddiw i Gae'r Gors. Roedd pobl o bob cwr yn dangos diddordeb yn hanes Dr...
15/09/2024

Er gwaetha'r glaw drwy'r dydd, daeth bron i 30 heddiw i Gae'r Gors. Roedd pobl o bob cwr yn dangos diddordeb yn hanes Dr Kate. Cadw

Despite the rain all day, nearly 30 people visited Cae'r Gors today. We had people from all parts of Cymru and beyond which demonstrates her massive contribution as a female writer to literature in general.

Dyma luniau o rai o'r bobl ddaeth i Gae'r Gors heddiw. Daeth bron i hanner cant i gyd.  Diwrnod di-dor o dywys, gan gynn...
14/09/2024

Dyma luniau o rai o'r bobl ddaeth i Gae'r Gors heddiw. Daeth bron i hanner cant i gyd. Diwrnod di-dor o dywys, gan gynnwys straeon difyr ofnadwy am Kate Roberts ei hun a'i theulu. Cofnod gwerthfawr o hanes byw. Cadw

A very good turnout to Cae'r Gors today. Almost fifty came in all. A non-stop day of guiding, including fascinating stories about Kate Roberts and her family. An invaluable record of our nation's living history. We need to record this for posterity People's Collection Wales

"O'm mlaen mae Sir Fôn ac Afon Menai, Môr Iwerydd yn ymestyn i'r gorwel....." - Kate Roberts yn y Lôn Wen. Bore braf yma...
14/09/2024

"O'm mlaen mae Sir Fôn ac Afon Menai, Môr Iwerydd yn ymestyn i'r gorwel....." - Kate Roberts yn y Lôn Wen. Bore braf yma, dewch draw i Gae'r Gors heddiw neu yfory! Cadw

Teithiau am 11am (Cymraeg), 1pm (Saesneg) a 3pm (Cymraeg).

This view inspired writer Kate Roberts to write her many classics. It is a beautiful morning here in Rhosgadfan, come along today or tomorrow to Cae'r Gors Rhosgadfan

Tours at 11am (Welsh), 1pm (English) and 3pm (Welsh).

Penwythnos Drysau Agored | Open Doors weekend Cadw Dewch draw i gartref plentyndod Brenhines ein Llên, Kate Roberts ddyd...
13/09/2024

Penwythnos Drysau Agored | Open Doors weekend Cadw

Dewch draw i gartref plentyndod Brenhines ein Llên, Kate Roberts ddydd Sadwrn neu ddydd Sul rhwng 11am a 4pm. Mynediad am ddim.

Come along to the childhood home of writer Kate Roberts this Saturday and Sunday between 11 and 4pm. Free admission. Rhosgadfan Pentref Rhostryfan Hwb Caernarfon Digwyddiadau Caernarfon

Explore the home of authoress Kate Roberts and find out more about the fascinating history of this restored building.

Lliwiau gwych rhwng y cawodydd heddiw tra'n tywys yng Nghastell Cricieth Castell Cricieth Nifer dda wedi dod i glywed yr...
12/09/2024

Lliwiau gwych rhwng y cawodydd heddiw tra'n tywys yng Nghastell Cricieth Castell Cricieth Nifer dda wedi dod i glywed yr hanes a mwynhau'r golygfeydd. Cadw

Roedd caneuon yr unigryw Dewi Pws i'w clywed yn y gwynt.

Long shadows on a beautiful September day at Cricieth Castle. In between the showers, Eifionydd looked beautiful with deep colours and crystal clear scenery. We had a good turnout of people to hear the history and enjoy the dramatic scenery.

The echoes of the late legend Dewi Pws's songs were present in the wind.

Dewch draw i Gastell Cricieth ddydd Iau. Come along to Cricieth Castle to one of the walking tours. Hwb Cricieth - Cricc...
08/09/2024

Dewch draw i Gastell Cricieth ddydd Iau. Come along to Cricieth Castle to one of the walking tours. Hwb Cricieth - Criccieth Hub

𝗣𝗼𝘀𝘁 𝗱𝘄𝘆𝗶𝗲𝗶𝘁𝗵𝗼𝗴 / 𝗕𝗶𝗹𝗶𝗻𝗴𝘂𝗮𝗹 𝗽𝗼𝘀𝘁

📣 Castell Cricieth
📅 12/09/2024

Dewch ar daith gyda’r tywysydd Deian ap Rhisiart i
gyfarfod cyfrinachau’r castell a adeiladwyd yn wreiddiol
gan Llywelyn Fawr.

Awr o daith yn chwilota rhwng muriau trawiadol Castell Cricieth. Teithiau am 11am, 1pm a 3pm.

🔗https://ow.ly/YPsM50T62xU

-------------------------------------------------------------------------------------

Take a tour with guide Deian ap Rhisiart and discover the secrets of the castle that was originally built by Llywelyn the Great.

An hour’s tour exploring inside the spectacular walls of Castell Cricieth. Tours at 11am, 1pm and 3pm.

🔗https://ow.ly/wq4y50T62xV

Diwrnod o dywys efo llong  Viking Neptune ddoe. Biwmares wedi dod i stop am gyfnod efo'r holl fysus a phrysurdeb ar y st...
25/08/2024

Diwrnod o dywys efo llong Viking Neptune ddoe. Biwmares wedi dod i stop am gyfnod efo'r holl fysus a phrysurdeb ar y stryd. Yr haul yn gwenu a Chymru ar ei gorau.

A beautiful day of guiding from the Viking Neptune yesterday. Biwmares high st was gridlocked at one point with coaches. With the sun shining, Cymru was at its most beautiful.

Castell Cricieth  ddydd Iau yma! Dewch heibio! Diwrnod i'r teulu yng Nghricieth? This Thursday. A Family dayout! Cadw   ...
20/08/2024

Castell Cricieth ddydd Iau yma! Dewch heibio! Diwrnod i'r teulu yng Nghricieth? This Thursday. A Family dayout! Cadw Hwb Cricieth - Criccieth Hub

Tywys yng Nghae'r Gors heddiw! Daeth dipyn go lew i gael cip ar gartref plentyndod Dr. Kate. Aethon ni wedyn am dro ar h...
17/08/2024

Tywys yng Nghae'r Gors heddiw! Daeth dipyn go lew i gael cip ar gartref plentyndod Dr. Kate. Aethon ni wedyn am dro ar hyd y Lôn Wen i orffen y diwrnod. Cadw Rhosgadfan

Guiding at Cae'r Gors today. We had a very good turnout!
Following the guided walks we went for a walk along the iconic Lôn Wen made famous by Kate Roberts.

Dydd Sadwrn yma.
15/08/2024

Dydd Sadwrn yma.

𝗣𝗼𝘀𝘁 𝗱𝘄𝘆𝗶𝗲𝗶𝘁𝗵𝗼𝗴 / 𝗕𝗶𝗹𝗶𝗻𝗴𝘂𝗮𝗹 𝗽𝗼𝘀𝘁

Teithiau Cae'r Gors

Ymunwch â thaith o amgylch Cae'r Gors gyda'n tywysydd arbenigol. Dewch i weld cartref yr awdures Kate Roberts a dysgu am hanes anhygoel yr adeilad hwn ar ei newydd wedd.

Nid oes angen fawr o ddychymyg i ddyfalu sut le oedd Cae'r Gors, cartref Kate Roberts yn blentyn, ar ddechrau'r ugeinfed ganrif. Mae bywyd gwledig yng nghymuned chwarela Rhosgadfan yn ymddangos yn ei gwaith yn aml.

Archebwch docynnau ar-lein ymlaen llaw: https://ow.ly/eYLJ50SLwNb

------------------------------------------------------------------------------------

Cae'r Gors Guided Tours

Explore the home of authoress Kate Roberts and find out more about the fascinating history of this restored building.

Little imagination is needed to envision what Cae'r Gors, the childhood home of Kate Roberts, was like at the beginning of the twentieth century. Depictions of rural life in the quarrying community of Rhosgadfan appear in her work frequently.

Our local expert will be there to show the public around, and a bilingual film about the life and work of Kate Roberts will also be shown.

Please book tickets online in advance: https://ow.ly/5T2650SLwL3

Teithiau tywys yng Nghae'r Gors ddydd Sadwrn yma.  Cyfle i gamu i fywyd chwarelyddol y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dec...
14/08/2024

Teithiau tywys yng Nghae'r Gors ddydd Sadwrn yma. Cyfle i gamu i fywyd chwarelyddol y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau'r ugeinfed ganrif a chael profi'r ardal a'r olygfa ble ysbrydolwyd Kate Roberts i ysgrifennu ei chlasuron. Rhaid cofrestru isod. Lledwch y gair!

Guided tours at Cae'r Gors, Rhosgadfan this Saturday. An opportunity to step into the quarrying life of the nineteenth and early twentieth century Wales and the area where distinguished author Kate Roberts was inspired to write her classics. Please register below. Rhosgadfan Digwyddiadau Caernarfon

Explore the home of authoress Kate Roberts and find out more about the fascinating history of this restored building.

Hwyl efo Will y Gwyddel heddiw yn mynd rownd Ynys Môn efo criw o long y Rotterdam. Bara brith a chacen gri i'r teithwyr ...
13/08/2024

Hwyl efo Will y Gwyddel heddiw yn mynd rownd Ynys Môn efo criw o long y Rotterdam. Bara brith a chacen gri i'r teithwyr yn Gwesty Fferm Lastra Farm Hotel

Tea, bara brith and cacen gri was on the menu at Lastra Farm for guests from the Rotterdam cruiseship today. Always great and fun to workwith Will the Irishman.

Diwrnod da. Am dro efo Kevin Spencer i Fiwmares a Chastell Conwy Conwy Castle  Alpine Travel, Coach Hire in North Wales ...
10/08/2024

Diwrnod da. Am dro efo Kevin Spencer i Fiwmares a Chastell Conwy Conwy Castle Alpine Travel, Coach Hire in North Wales Llong Princess yn y porthladd.

A beautiful day in Cymru. A very enjoyable drive with Kev our coach driver to Biwmares and Conwy Castle. The Princess cruiseship in port.

Diwrnod anhygoel rhif 2 efo grŵp o ddysgwyr Cymraeg o ogledd America (yr Unol Daleithau a Chanada). Nant Gwrtheyrn  Haul...
03/08/2024

Diwrnod anhygoel rhif 2 efo grŵp o ddysgwyr Cymraeg o ogledd America (yr Unol Daleithau a Chanada). Nant Gwrtheyrn Haul yn gwenu yn RSPB South Stack Ynys Lawd a thrip cwch bendigedig o gwmpas Ynys Seiriol efo Seacoast Safaris . Wedyn i Eglwys Santes Fair i weld bedd honedig Siwan. Diolch yn fawr i Janet Redler Travel am y cyfle i roi deuddydd o amserlen at ei gilydd. Y nod yma oedd rhoi profiad cyflawn o brydferthwch, iaith a diwylliant Cymru a gobeithio fod hynny wedi plesio.

Day 2 with Welsh learners from north America (US and Canada). A glorious day visiting Ynys Lawd and a boatrip around Ynys Seiriol. To finish we visited the alleged sarcophegus of Siwan, the wife of Llywelyn ap Iorwerth. Thank you to Janet Redler travel for the opportunity to be creative with the itinerary. The aim here was to provide an immersive experience of Cymru in its various elements, its beauty, culture and language and I hope it inspired the Welsh learners. Alpine Travel, Coach Hire in North Wales

Address

Caernarfon
LL552

Alerts

Be the first to know and let us send you an email when Tywysydd - Tour Guide posts news and promotions. Your email address will not be used for any other purpose, and you can unsubscribe at any time.

Contact The Business

Send a message to Tywysydd - Tour Guide:

Videos

Share

Category


Other Tour Guides in Caernarfon

Show All