14/08/2023
Mae Oriel Machno bellach ar agor bob dydd Llun o 9.30 tan 4.30, yn ogystal a dyddiau Gwener a Sadwrn o 12.00 tan 5.00.
Gwirfoddolwyr sy’n agor yr oriel ar y dyddiau Gwener a Sadwrn, a da ni’n ddiolchgar iawn i’r rheiny sydd yn rhoi eu henwau i lawr, ond da ni wastad yn chwilio am fwy o wirfoddolwyr er mwyn cadw yr amserlen i fynd.
Os fyddai diddordeb gan unrhyw un arall ymuno a’r rhestr wirfoddoli yna cysylltwch â [email protected].
Dwi yn gweithio un diwrnod yr wythnos yn yr Oriel ar ddyddiau llun, tra bod Kristin ar gyfnod mamolaeth. Croeso i chi alw heibio i’m gweld i yma.
Ar hyn o bryd mae’r arddangosfa nesa o waith wnaed gyda’r gymuned a’r artist Anna Farrall yn cael ei chynllunio, a bydd hi i fyny yn eitha buan.
Mae’r Oriel hefyd yn edrych ar y posibilrwydd o greu arddangosfa o amgylch hanes Clwb Pêl Droed Penmachno Unedig yn y dyfodol agos, yn ogystal ac arddangosfa bosib arall ar hanes cerddorol y fro.
Hefyd, os ydi unrhywun sy’n arddangos eu crefftau yn y ffenest am newid eu sdoc, mae croeso i chi ddod yma i wneud hynny ar y dyddiau a soniwyd amdanynt uchod neu gysylltu efo fi i drefnu adeg arall. Yr un peth yn wir am unrhywun sydd a sdoc newydd i werthu!
Diolch yn fawr, Rhodri.
---
Oriel Machno is now open every Monday from 9.30 to 4.30, as well as Fridays and Saturdays from 12.00 to 5.00.
Volunteers open the gallery on Fridays and Saturdays, and we are very grateful to those who put their names down, but we are always looking for more volunteers in order to keep the schedule going.
If anyone else would be interested in joining the volunteering list then contact [email protected].
I work one day a week at Oriel Machno on Mondays, while Kristin is on maternity leave. You are welcome to drop by and say hello.
At the moment, we are planning the next exhibition of Anna Farrall's work with the community, and will be here to see very soon.
Oriel Machno is also looking at the possibility of creating an exhibition around the history of Penmachno United Football Club in the near future, as well as another possible exhibition on the musical history of the area.
Also, if anyone displaying their crafts in the window wants to change their stock, you are welcome to come here and do so on the days mentioned above or contact me to arrange another time. The same goes for anyone who has new stock to sell. Let me know.
Thank you very much, Rhodri.