Ysgol y Preseli

Ysgol y Preseli Swyddfa / Office
01239 831 406
[email protected]

Llinell Absenoldeb / Absence Line
01239 831 009

Mae ein harwyddair ‘Cofia Ddysgu Byw’ yn crisialu ein nod o baratoi disgyblion ar gyfer bywyd tu hwnt i ysgol. Credaf ein bod yn paratoi disgyblion trwy ddatblygu eu sgiliau a’u gwerthoedd ar gyfer bywyd y tu allan i’r ystafell ddosbarth ac i wynebu sialensiau yr unfed ganrif ar hugain. Rydym yma i gydweithio i greu ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg o’r radd flaenaf. Disgwyliwn y safon orau posibl ga

n ein disgyblion ac fe wnawn ein gorau i roi pob cyfle ac arweiniad iddynt hwy. Derbyniodd yr ysgol glod am ei llwyddiant academaidd ysgubol ar lefel sirol a chenedlaethol. Mae cyfoeth ac ehangder y gweithgareddau allgyrsiol wedi bod yn nodwedd bwysig o fywyd a diwylliant yr ysgol hefyd ers y cychwyn. Ymfalchïwn yn ein llwyddiannau academaidd, diwylliannol a chwaraeon ac yng nghynnydd pob disgybl beth bynnag fo’i ddawn a’i ddiddordeb. Un o gryfderau mwyaf yr ysgol yw ei hethos Gymraeg, a’i chymuned ofalgar, agored a hapus lle y mae disgyblion yn teimlo’n gartrefol ac yn mwynhau eu haddysg. Ein prif nod fel ysgol yw gwneud dysgu yn brofiad cyffrous a phleserus a hynny yn bennaf trwy ddefnyddio dulliau dysgu ac addysgu diddorol a gweithredol yn ein gwersi. Mae pob disgybl yn bwysig fel unigolyn, a phob unigolyn yn bwysig fel aelod o ‘deulu’ Ysgol y Preseli. Yr egwyddor hon o barchu’r unigolyn a gosod anghenion yr unigolyn yn y canol sydd wrth wraidd ethos, gwerthoedd a llwyddiant yr ysgol fel ysgol dda. Hyderwn y bydd ein disgyblion yn falch o’u hysgol, yn falch o’u Cymreictod a’u dwyieithrwydd ac yn medru cyfrannu yn gadarnhaol at gymdeithas aml-ieithog ac amlddiwylliannol Cymru a Ewrop.

~

Our motto ‘Cofia Ddysgu Byw’ (Remember to learn how to live) summarises our aim of ensuring that all pupils are prepared for life after leaving school. I believe that we prepare pupils by developing their skills and values in preparation for life beyond the classroom and in anticipation of facing the challenges of the 21st Century. We are here to work together to create a first rate Welsh Medium Secondary School. We expect the highest possible standards from our pupils and we will do our utmost to give them every opportunity and guidance. The school has consistently attained very high academic standards at county and national level. The wide ranging and vibrant extra curricular life of the school has been a notable feature of the school’s life and culture from the outset. We are very proud of our successes in all fields including academic, cultural and sporting achievements. We take pride in the personal progress of all our pupils whatever their talents and interests. One of the main strengths of the school has always been its caring, open and happy ethos where pupils feel at home and enjoy their education in a totally Welsh environment. One of our main aims as a school is to make the learning an exciting and pleasurable experience mainly by ensuring we use teaching and learning methods which are interesting and actively involve our pupils. Every pupil is regarded as an individual who is an important member of the ‘family’ of Ysgol y Preseli. This fundamental principle of respecting each individual and placing the individual’s needs at the centre forms the basis of the school’s ethos, values and success as a good school. We are confident that our pupils will be proud of the school, proud of their Welshness and their bilingualism and able to contribute to a multilingual and multi-cultural Wales and Europe.

Llongyfarchiadau enfawr i ferched Pêl-droed Dan 13 ar eu perfformiad heddiw yn rownd derfynol Cwpan Ysgolion Cymru yn St...
23/05/2022

Llongyfarchiadau enfawr i ferched Pêl-droed Dan 13 ar eu perfformiad heddiw yn rownd derfynol Cwpan Ysgolion Cymru yn Stadiwm Dinas Caerdydd. Er mai colli oedd eu hanes o 5 gôl i 1 yn erbyn tîm cryf o Ysgol Glantaf, rhaid eu llongyfarch ar gyrraedd y ffeinal. Tipyn o gamp a phrofiad anhygoel i’r merched.
Diolch hefyd i bawb wnaeth ddod i gefnogi ar yr achlysur arbennig ⚽️🏅⚽️
Congratulations to the girls Under 13 Football team on their performance today in the Welsh Schools Cup Final at the Cardiff City Stadium. Despite losing by 5 goals to 1 against a strong Ysgol Glantaf team, the girls deserve the highest praise. It was a great and memorable experience!
A big thanks also to everyone that came to support the girls ⚽️🏅⚽️

Pob lwc i'r tîm rygbi dan-18 yfory (26.04.22) yn ffeinal Fâs Ysgolion Cymru yn erbyn 2il dîm Coleg Sir Gâr yn Stadiwm y ...
25/04/2022

Pob lwc i'r tîm rygbi dan-18 yfory (26.04.22) yn ffeinal Fâs Ysgolion Cymru yn erbyn 2il dîm Coleg Sir Gâr yn Stadiwm y Principality am 1.35yp. Bydd y gêm yn cael ei ddarlledu'n fyw ar y ddolen gyswllt ganlynol: https://www.youtube.com/c/WRUOfficial

Good luck to the the u-18's rugby team in tomorrow's Vase final (26.04.22) against Coleg Sir Gâr 2nd team at the Principality Stadium at 1.35pm. The match will be streamed live on the following link: https://www.youtube.com/c/WRUOfficial

The latest news & videos from the WRU. For more exclusive videos join the WRU Support Club.The official page for Wales Rugby Union, featuring official match ...

22/04/2022

Neges i'ch atgoffa bydd Ysgol Bro Preseli ar gau ar Ddydd Llun 25ain Ebrill ar gyfer ein diwrnod Hyfforddiant Mewn Swydd. Edrychwn ymlaen at groesawi'r disgyblion i'r ysgol ar Ddydd Mawrth 26ain Ebrill. Yn y cyfamser, mwynhewch beth sy'n weddill o'r gwyliau.

A reminder that Ysgol Bro Preseli will be closed on Monday 25th April for our In Service Training day. We look forward to welcoming pupils back to school on Tuesday 26th April. In the meantime, enjoy the remainder of the Easter break.

08/04/2022
Yr wythnos yma mae Hwyrddyfodwyr Canolfan Iaith y Preseli wedi bod yn dysgu am y Pasg. Diolch i’r adran goginio am gael ...
08/04/2022

Yr wythnos yma mae Hwyrddyfodwyr Canolfan Iaith y Preseli wedi bod yn dysgu am y Pasg. Diolch i’r adran goginio am gael coginio nythod Pasg yn yr ystafell goginio. Mmmm! Blasus!
This week the Canolfan Iaith y Preseli pupils have been learning about Easter. Thank you for the use of the cookery room to cook Easter nests. Mmmm! Tasty!

07/04/2022

Hoffwn gyflwyno Noson Wobrwyo Rithiol Ysgol y Preseli ar gyfer y flwyddyn academaidd 2020-2021. Mae Noson Wobrwyo Ysgol y Preseli yn un o uchafbwyntiau calendr y flwyddyn i ni. Yn anffodus, eleni eto, rhaid oedd canslo’r noson yn yr ysgol oherwydd y cynnydd diweddar mewn achosion COVID-19 yn lleol. Dymunwn longyfarch disgyblion a chyn ddisgyblion yr ysgol ar eu llwyddiannau. Diolch i bawb sydd wedi noddi’r gwobrau eleni eto.

Ysgol y Preseli would like to present our annual Prize Evening for the 2020-2021 academic year. The school’s Prize Evening is one of the highlights of our annual school calendar. Unfortunately, this year we were not able to celebrate our pupils’ successes in the usual way at school due to the recent increase in COVID-19 cases locally. We wish to congratulate all pupils and ex pupils on their achievements. We would like to thank all our sponsors again this year.

Blood stocks in   are lower than  would like them to be.Can you help us by giving blood @ Crymych Leisure Centre 22 Apri...
07/04/2022

Blood stocks in are lower than would like them to be.
Can you help us by giving blood @ Crymych Leisure Centre 22 April & 26 May
Make an appointment today https://wbs.wales/YsgolYPreseli

Mae stociau gwaed yn yn is nag yr hoffai iddynt fod.
Allwch chi ein helpu ni a rhoi gwaed @ Canolfan Hamdden Crymych 22 Ebrill & 26 Mai
Gwnewch apwyntiad heddiw https://wbs.wales/YsgolYPreseli

Taith i Goleg Sir Benfro bl 9 ar gyfer diwrnod blasu y sector Lletygarwch ac ArlwyoYear 9 pupils during their recent vis...
06/04/2022

Taith i Goleg Sir Benfro bl 9 ar gyfer diwrnod blasu y sector Lletygarwch ac Arlwyo

Year 9 pupils during their recent visit to Pembrokeshire College for the Hospitality and Catering taster day.

Llongyfarchiadau enfawr i dîm Pêl-droed Merched Dan 13 ar ennill o 2 gôl i 1 yn rownd cyn-derfynol Cwpan Cymru yn erbyn ...
04/04/2022

Llongyfarchiadau enfawr i dîm Pêl-droed Merched Dan 13 ar ennill o 2 gôl i 1 yn rownd cyn-derfynol Cwpan Cymru yn erbyn Ysgol PlasMawr heddiw yng Nghaerdydd. Perfformiad a chyrhaeddiad arbennig, ferched!
A huge congratulations to the Girls Under 13 Football team on winning 2-1 against Ysgol PlasMawr in the semi-final of the Welsh Cup today in Cardiff. An amazing performance and achievement! Well done, all!

Yr wythnos yma mae hwyrddyfodwyr Canolfan Iaith y Preseli wedi bod yn defnyddio a***n wrth siopa ac archebu bwyd yn y ca...
01/04/2022

Yr wythnos yma mae hwyrddyfodwyr Canolfan Iaith y Preseli wedi bod yn defnyddio a***n wrth siopa ac archebu bwyd yn y caffi. Dyma ddisgyblion y ganolfan yn mwynhau siopa yn siop y Ganolfan Iaith, chwarae ‘Dewch i’r siop’ ac yn archebu bwyd yng nghaffi Blasus, Crymych. Diolch i staff ‘Blasus’ am y croeso arbennig!
This week the pupils attending Canolfan Iaith y Preseli have been using money and ordering food in the cafe. Here are the children learning and enjoying shopping in the Canolfan Iaith shop, playing ‘Pop to the shops’ and ordering food at café ‘Blasus’, Crymych. Thank you to all the staff at ‘Blasus’ for the fantastic welcome!

30/03/2022

Ymdrech arbennig gan dîm rygbi dan-18 Ysgol y Preseli prynhawn yma, yn colli 47-14 yn erbyn tîm ardderchog Ysgol Ystalyfera yn rownd cyn-drefynol Cwpan Ysgolion Cymru ar faes enwog y 'Gnoll' Castell Nedd. Pob lwc i Ystalyfera yn ffeinal y cwpan ac i Ysgol y Preseli yn ffeinal y fâs ar ddydd Mawrth 26ain o Ebrill yn Stadiwm y Principality, Caerdydd.

A fantastic effort by the Ysgol y Preseli u-18's rugby team this afternoon, losing 47-14 against an excellent Ysgol Ystalyfera side in the semi-final of the Welsh Schools Cup at the famous 'Gnoll' ground at Neath. Good luck to Ystalyfera in the final of the Cup and Ysgol y Preseli in the final of the Vase competition, both to be played at the Principality Stadium, Cardiff, on Tuesday the 26th of April.

28/03/2022
At sylw rhieni/gwarcheidwaid Blwyddyn 6 / FAO year 6 parents/carers:Mae GWEITHGAREDD 6 wedi ei bostio ar y TEAMS PONTIO ...
28/03/2022

At sylw rhieni/gwarcheidwaid Blwyddyn 6 / FAO year 6 parents/carers:

Mae GWEITHGAREDD 6 wedi ei bostio ar y TEAMS PONTIO i’ch plentyn bore ‘ma. Diolch i Mrs Ann Evans am drefnu'r helfa drysor SIAPIAU 2D a 3D o gwmpas y tŷ. Mwynhewch!

🔺⚽🎲💿🥫🔴
TRANSITION ACTIVITY 6 is now live on TEAMS for your child. Thank you to Mrs Ann Evans for organising the SHAPES Scavenger Hunt. Enjoy!
🔺⚽🎲💿🥫🔴

Llongyfarchiadau i’r disgyblion yma o flwyddyn 9, 10 ac 11 am berfformio’n wych yn y Sialens Mathemateg Canolradd UKMT y...
25/03/2022

Llongyfarchiadau i’r disgyblion yma o flwyddyn 9, 10 ac 11 am berfformio’n wych yn y Sialens Mathemateg Canolradd UKMT yn ddiweddar. Llwyddodd dau ddisgybl i ennill tystysgrif Aur a llwyddodd un ar ddeg disgybl i ennill tystysgrifau Efydd. Perfformiodd dau ddisgybl gystal fel eu bod nhw yn gymwys i gymryd rhan yn rownd nesaf y sialens, sef y Sialens ‘UKMT Kangaroo’! Dymuna’r Adran Fathemateg longyfarch pob disgybl a gymerodd ran yn y Sialens.

Congratulations to these year 9, 10 and 11 pupils for their excellent performance in the recent UKMT Intermediate Mathematics Challenge. Two pupils were successful in winning Gold certificates and eleven pupils received a Bronze certificate. Two pupils performed so well that they have qualified for the next round of the challenge, namely the ‘UKMT Kangaroo’ challenge! The Mathematics Department would like to congratulate each pupil that participated in the Challenge.

Tro disgyblion blwyddyn 12 Lefel 3 Bwyd a Maeth yn y gegin heddiw yn cwblhau eu asesiad ymarferol. Gwaith gwych pawb!! D...
24/03/2022

Tro disgyblion blwyddyn 12 Lefel 3 Bwyd a Maeth yn y gegin heddiw yn cwblhau eu asesiad ymarferol. Gwaith gwych pawb!!
Diolch i Mrs Catherine Davies am eu cefnogi

The turn of Year 12 Food and Nutrition students in the kitchen today completing their practical assessment. Fantastic work everyone!!
Thank you to Mrs Catherine Davies for supporting them

Yr wythnos yma mae hwyrddyfodwyr Canolfan y Preseli wedi bod yn dysgu am yr ardal. Dyma ddisgyblion y ganolfan yn mwynha...
23/03/2022

Yr wythnos yma mae hwyrddyfodwyr Canolfan y Preseli wedi bod yn dysgu am yr ardal. Dyma ddisgyblion y ganolfan yn mwynhau mynd am dro o gwmpas Crymych a chael hwyl yn y parc chwarae.
This week the pupils attending Canolfan y Preseli have been learning about the area. Here are the children learning and enjoying a stroll around Crymych.

Mae tîm neidio ceffylau Ysgol y Preseli wedi profi llawer o lwyddiant dros y penwythnos. Dyma’r canlyniadau terfynol ym ...
21/03/2022

Mae tîm neidio ceffylau Ysgol y Preseli wedi profi llawer o lwyddiant dros y penwythnos. Dyma’r canlyniadau terfynol ym Mhencampwriaethau Gaeaf Just for Schools a gynhaliwyd yng Nghanolfan David Broome ar 19eg a 20fed o Fawrth 2022:
Dydd Sadwrn, Rownd Derfynol 70cm – Tîm Sêr 3ydd, Tim Diemwntau 5ed
Dydd Sul, Cystadleuaeth Cynghrair 60cm – Tîm Perlau 3ydd
Dydd Sul, Rownd Derfynol 60cm – Tîm Diemwntau 3ydd
Dydd Sul, Cystadleuaeth Cynghrair 70cm – Tîm Sêr 3ydd
Dydd Sul, Rownd Derfynol 80cm – Tîm Sêr 4ydd
Mae’r ysgol yn browd iawn o lwyddiant y timoedd. Da iawn chi!

The Ysgol y Preseli show jumping team has had a lot of success over the weekend. Here are the final results at the Just for Schools Winter Championships held at the David Broome Event Centre on March 19th and 20th, 2022:
Saturday, 70cm Final - Star Team 3rd, Diamond Team 5th
Sunday, 60cm League - Pearl Team 3rd
Sunday, 60cm Final - Diamond Team 3rd
Sunday, 70cm League - Star Team 3rd
Sunday, 80cm Final - Star Team 4th
The school is very proud of the teams' success. Well done you!

Llongyfarchiadau i holl ddisgyblion Canolfan Iaith y Preseli a fuodd yn cystadlu yn yr Eisteddfodau Cylch a Sir. Llongyf...
21/03/2022

Llongyfarchiadau i holl ddisgyblion Canolfan Iaith y Preseli a fuodd yn cystadlu yn yr Eisteddfodau Cylch a Sir. Llongyfarchiadau mawr i Jake am ennill yn yr Eisteddfod Sir dydd Sadwrn. Pob lwc i ti yn Ninbych!
Congratulations to all the Language Centre pupils who have competed in the Eisteddfodau Cylch and County Eisteddfod. A huge congratulations to Jake who came first in the county Eisteddfod on Saturday. Good luck in Denbighshire!

Address

Ysgol Y Preseli
Crymych
SA413QH

Opening Hours

Monday 8am - 5pm
Tuesday 8am - 5pm
Wednesday 8am - 5pm
Thursday 8am - 5pm
Friday 8am - 5pm

Alerts

Be the first to know and let us send you an email when Ysgol y Preseli posts news and promotions. Your email address will not be used for any other purpose, and you can unsubscribe at any time.

Contact The Business

Send a message to Ysgol y Preseli:

Videos

Share


Other Crymych travel agencies

Show All

You may also like